Please can you introduce yourself
I am a writer, creator and musician from London. Through my experimentation with diverse platforms and forms of expression, I've built a wonderful online community based on introspection and emotional connection, with whom I share my thoughts in written, long and short video forms. I have a deep love for words, and only want anyone who comes across my work to leave feeling better for it.
Where does creativity show up for you and how do you use it?
In everything I do! I'm very fortunate to be a full-time creator
Has your creativity ever led you to any unexpected places or connections?
Absolutely, I get to meet a lot of people through what I do and I never quite know what may come next - I've travelled to Greece, LA, New York through work in the last couple of years but met even more interesting and lovely people at home in London through creative ventures.
What drew you to take part in The January Challenge?The beauty of its goal - encouraging everybody to partake in some kind of creativity and find a way of self-expression that resonates with them.
Finish the sentence. 'Creativity Is...'
exploration, patience, freedom
Cyflwynwch eich hun os gwelwch yn dda.
Rwy’n ysgrifennwr, yn grëwr ac yn gerddor o Lundain. Trwy fy arbrofi gyda phlatfformau amrywiol a chyda gwahanol ffyrdd o fynegiant rwyf wedi creu cymuned ar-lein wych wedi’i seilio ar fewnsylliad a chyswllt emosiynol, ac rwy’n rhannu fy meddyliau gyda’r gymuned hon yn ysgrifenedig a thrwy gyfrwng fideos hir a byr. Mae gennyf gariad mawr at eiriau, a’r unig beth yr ydw i ei eisiau ydi bod pwy bynnag ddaw ar draws fy ngwaith yn gadael yn teimlo’n well o’i herwydd.
Ymhle mae creadigrwydd yn ymddangos i chi, a sut fyddwch yn ei ddefnyddio?
Ym mhopeth rwy’n ei wneud! Rwy’n ffodus iawn i fod yn grëwr llawn amser.
A yw’ch creadigrwydd wedi’ch arwain erioed i fannau neu at gysylltiadau annisgwyl?
Yn sicr, rwy’n cyfarfod llawer o bobl trwy’r hyn rwy’n ei wneud a byth yn hollol siŵr be ddaw nesaf – rwyf wedi teithio i Wlad Groeg, i LA, i Efrog Newydd yn sgil fy ngwaith yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf ond wedi cyfarfod pobl hyd yn oed mwy difyr a hyfrytach gartref yn Llundain drwy fentrau creadigol.
Beth a’ch denodd i gymryd rhan yn Her Mis Ionawr?
Harddwch ei nod – annog pawb i ymgymryd â rhyw fath o greadigrwydd a darganfod ffordd o hunanfynegiant sydd yn gweddu i’w natur.
Gorffennwch y frawddeg. ‘Creadigrwydd yw…’
Ymchwilio,
Amynedd,
rhyddid