An important date

Day 17: An important date

Welsh translation: Dyddiad arbennig

Jo Cox Foundation

The Jo Cox Foundation makes meaningful change on issues that the late Jo Cox MP was passionate about.

Like Jo, we believe that a kinder, fairer and more connected world is possible. Underpinning this belief is the understanding that we have more in common than that which divides us.

As we work to make change, we follow Jo’s example of collaborating with others and bringing people together to achieve more than we can alone.

FieldLane Primary School in Brighouse, is a part of the Batley Multi-Academy-Trust, a collection of school that works closely with the Jo Cox Foundation.

Luckily for us – the year 6 students at FieldLane have designed today’s creative prompt! As soon as the Y6 children heard that the project was taking place in January, they knew that they would like to do an activity that involved the calendar and important dates.

https://www.jocoxfoundation.org/?gclid=Cj0KCQjw1OmoBhDXARIsAAAYGSGSaaxziaJMWCu2W6uxmYRDG7C8bsD_OAXH6Tef_0mdJL0DJS5vCf4aAqeLEALw_wcB

https://www.instagram.com/jocoxfoundation/?hl=en

Mae Sefydliad Jo Cox yn creu newid ystyrlon ar faterion yr oedd y diweddar Jo Cox AS yn angerddol drostyn nhw. Fel Jo, rydyn ni’n credu bod byd mwy caredig, teg a chysylltiedig yn bosibl. Yn sail i’r gred hon mae deall bod gennym ni fwy yn gyffredin na’r hyn sy’n ein gwahanu. Wrth i ni weithio i greu newid, rydyn ni’n dilyn esiampl Jo o gydweithio gyda phobl eraill a dod â phobl at ei gilydd i gyflawni mwy nag y gallwn ei wneud ar ein pen ein hunain. Mae Ysgol Gynradd FieldLane yn Brighouse yn rhan o Ymddiriedolaeth Aml-Academi Batley, casgliad o ysgolion sy’n gweithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth Jo Cox. Yn ffodus i ni, mae myfyrwyr blwyddyn 6 yn FieldLane wedi cynllunio’r ysgogiad creadigol ar gyfer heddiw! Pan glywodd plant Bl6 fod y prosiect yn digwydd ym mis Ionawr, roedden nhw’n awyddus i wneud gweithgaredd yn cynnwys y calendr a dyddiadau pwysig.

https://www.jocoxfoundation.org/?gclid=Cj0KCQjw1OmoBhDXARIsAAAYGSGSaaxziaJMWCu2W6uxmYRDG7C8bsD_OAXH6Tef_0mdJL0DJS5vCf4aAqeLEALw_wcB

https://www.instagram.com/jocoxfoundation/?hl=en

Do

Create a 2 by 4 grid of 8.

In each box, write a number that represents a special date to you.

For example, if you were born on the 27th, you might write ’27’, if you like the month of March, you might write ‘3’ because it’s the 3rd month of the year.

Fill the grid with 8 numbers, 1 in each box.

Now – connect each number by drawing a line from the end of one to the beginning of the other.

Each number should be connected to another one, and when you’re finished you should have an abstract looking design!

Add colour over the lines or in between the spaces to create an abstract print, shaped by your special numbers.

Crëwch grid o 8 blwch 2×4. Ym mhob blwch, ysgrifennwch rif sy’n cynrychioli dyddiad arbennig i chi. Er enghraifft, os cawsoch chi eich geni ar y 27ain, gallech chi ysgrifennu ’27’. Os ydych chi’n hoffi mis Mawrth, gallech chi ysgrifennu ‘3’ gan mai dyma drydydd mis y flwyddyn. Llenwch y grid gydag 8 rhif, un ym mhob blwch. Nawr cysylltwch bob rhif drwy dynnu llinell o ddiwedd un at ddechrau’r llall. Dylai pob rhif fod yn gysylltiedig ag un arall, a phan fyddwch yn gorffen dylai fod gennych chi gynllun haniaethol yr olwg! Ychwanegwch liw dros y llinellau neu rhwng y bylchau i greu print haniaethol, wedi’i siapio gan eich rhifau arbennig.

Think

What prompted your connections between your numbers?

Was it random or did you spy any connections that you hadn’t noticed before?

Beth ysgogodd eich cysylltiadau rhwng y rhifau? Oedden nhw ar hap neu a welsoch chi gysylltiadau nad oeddech chi wedi sylwi arnyn nhw o’r blaen?

Share

Share pictures of the artwork you create with friends and family or whomever you feel comfortable sharing to.

If you’d like to, you could share it online.

Tag us in your posts so we can see them to.

#TheJanuaryChallenge

Read our top tips for accessible sharing on social media.

Rhannwch luniau o’r gwaith celf rydych chi’n ei greu gyda ffrindiau a theulu neu gyda phwy bynnag rydych chi’n gyfforddus i rannu gyda nhw. Gallech chi ei rannu ar-lein os hoffech chi. Tagiwch ni yn eich post er mwyn i ni gael eu gweld nhw hefyd.

#TheJanuaryChallenge