Listen / Look Up
Day 2: Listen / Look Up
Welsh translation: Gwrandewch / Edrych ar i fyny

“I’ve lived in Brixton for 14 years and I love my community. Community power and social justice are in my DNA. This creative prompt is rooted in strong nostalgia for me. As a child, we would often make long car journeys to visit family and friends. My dad would be playing old Hindi movie songs in the background. I loved sky-gazing and cloud-spotting from the back of the car. In the clouds I could see giant animals, mountains, the sea and more! My everyday ordinary world turned into something quite vast and epic when I gazed up into the sky. I now love doing this activity with my daughter.”
To find out more about Anita Kambo visit: https://64millionartists.com/anita-kambo/
Rwyf wedi byw yn Brixton (Lambeth) am 14 mlynedd ac mae fy nghymuned yn agos at fy nghalon.
Mae grym cymunedol a chyfiawnder cymdeithasol yn fy ngwaed. Yn Brixton mae creadigrwydd yn ein cymunedau, yn ein hamrywiaeth, ein gweithredu ac yn ein hasedau cymunedol – marchnadoedd, llyfrgelloedd/archifdai, parciau. Mae creadigrwydd gyda fy merch yn cynnwys canu, dawnsio a choginio! Fel ymchwilydd rwy’n defnyddio photovoice (ffotolais?), adrodd straeon ac eco-fapio, ac rwyf wedi rhannu fy nghanfyddiadau trwy berfformiadau crwydrol!”
https://64millionartists.com/anita-kambo/
Instagram: @anitakainthkambo
LinkedIn: Anita Kambo
Do

Find a comfortable space to lay or sit where you can look up to the sky, or use your senses to take in your environment around you. You could head out to a garden or park, or simply next to a window. Get yourself as comfortable as you can. If the sky’s bright, wear sunglasses and don’t look at the sun.
Look up for 2-3 minutes and let your eyes take you where they want. Perhaps you see clouds shaped like animals or objects, tree-tops, construction cranes, high-rises. You might notice new shapes or textures from this perspective. Connect with other senses – what can you hear, smell or touch/feel? On a piece of paper, write or draw something to describe how you feel right now.
Don’t think too hard, just whatever comes to mind straight away. You might want to use a colour you feel drawn to.
You could anonymously leave your words or symbol for someone else to discover. You may also wish to note down the prompt of ‘Look Up’ on the paper so that someone might feel inspired to take part too!
This is a great opportunity to take a mindful break on a busy day.
Ewch i rywle cyfforddus i orwedd neu eistedd lle y gallwch edrych i fyny ar yr awyr. Gall fod yn ardd neu yn barc, yn wely neu’n llawr ger ffenestr. Gwnewch eich hun yn gyfforddus gyda blanced, clustog a/neu ddiod boeth. Os yw’r awyr yn llachar gwisgwch sbectol haul a pheidiwch ag edrych yn uniongyrchol ar yr haul.
Edrychwch i fyny am ddau neu dri munud, hirach os hoffech. Gadewch i’ch llygaid fynd lle y mynnont. Efallai y gwelwch gymylau sydd yn edrych fel anifeiliaid neu wrthrychau eraill, canghennau coed, craeniau adeiladau, fflatiau uchel. Efallai y sylwch ar bersbectif, siâp neu wead nad ydych wedi sylwi arno o’r blaen. Sylwch sut mae’r golau ar y funud hon. Os hoffech, cysylltwch â’ch synhwyrau eraill – be sydd bosib ei glywed, ei arogli, neu ei deimlo?
Ar ddarn o bapur ysgrifennwch un gair neu darluniwch un symbol sydd yn disgrifio sut rydych yn teimlo. Peidiwch â meddwl yn rhy galed, dim ond beth bynnag ddaw i’r meddwl gyntaf. Gallech ddefnyddio lliw sy’n apelio.
Gallech, yn ddienw, adael eich gair neu eich symbol i rywun arall ei ddarganfod mewn lle cyhoeddus, rhywle rydych yn ymweld ag o neu yn mynd heibio iddo, er enghraifft, parc, llyfrgell, man gwaith, caffi. Efallai yr hoffech nodi’r her ‘Edrych ar i fyny’ ar y papur fel bod rhywun arall yn cael ei ysbrydoli i gymryd rhan hefyd!
Think
How did in this prompt make you feel? More relaxed, grounded, present or connected with yourself and your environment? Perhaps getting snug gave you a sense of coziness and comfort?
Sut mae ymateb i’r her hon wedi gwneud i chi deimlo? Efallai eich bod yn teimlo wedi ymlacio, neu yn teimlo’n fwy presennol ac â gwell cyswllt â’ch hun a’r amgylchfyd? Efallai bod hyn wedi gwneud i chi deimlo’n gyfforddus a chlyd?
Share
You can share today’s journey with creativity on social media by tagging us or using the hashtag #TheJanuaryChallenge
Encourage your friends and family to join in to take the conversation further!
Read our top tips for accessible sharing on social media.
Rhannwch eich campau creadigol gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ein tagio neu ddefnyddio’r hashnod #HerIonawr
Beth am annog ffrindiau a theulu i ymuno fel gall y sgwrs fynd ymhellach!
Darllenwch ein hawgrymiadau gwych er mwyn rhannu mewn modd hygyrch.