Please can you introduce yourself
I'm Aditi Kaushiva, a movement facilitator and founder of "Move to Thrive," a practice that blends mindful movement inspired by my Indian culture, and creative expression to help people reconnect with themselves and others. I believe movement is a tool for self-discovery, emotional release, and community building. I design and lead movement sessions to encourage participants to step into their bodies away from the 'hustle' culture, explore their inner landscapes, and find peace, joy and presence in motion.
Where does creativity show up for you and how do you use it?
Creativity fuels everything I do! I design movement experiences that are playful, expressive, and tailored to individual needs. I love witnessing participants discover their unique creative voice through movement. Personally, I use creativity to explore emotions and navigate challenges, turning everyday moments into opportunities for growth and connection.
Has your creativity ever led you to any unexpected places or connections?
Oh yes! My creative journey has led to collaborations with diverse communities and artists, and it’s brought me closer to people who share a passion for mindful movement and self-expression. It’s also deepened my own self-awareness and has shown me the power of creativity in healing and connection.
What drew you to take part in The January Challenge?
The January Challenge's focus on daily creativity resonates with my mission to make movement accessible and inspiring. I’m excited to share a prompt that encourages people to explore their bodies and minds in new, playful ways, helping them start the year with a deeper connection to themselves.
Finish the sentence. 'Creativity Is...'
embracing uniqueness
Cyflwynwch eich hun os gwelwch yn dda.
Aditi Kaushiva ydw i, hwylusydd symud a sylfaenydd “Move to Thrive”, ymarfer sydd yn cyfuno symud meddylgar wedi’i ysbrydoli gan fy niwylliant Indiaidd, a mynegiant creadigol i gynorthwyo pobl i ailgysylltu â’u hunain a chydag eraill. Credaf fod symud yn arf ar gyfer darganfod eich hun, rhyddhad emosiynol ac adeiladu cymdeithas. Rwy’n cynllunio ac yn arwain sesiynau symud er mwyn annog cyfranogwyr i gamu i mewn i’w cyrff ac oddi wrth y diwylliant ‘hustle’, i ymchwilio eu tirlun mewnol, a darganfod heddwch a llawenydd a bod yn bresennol yn y symud.
Ymhle mae creadigrwydd yn ymddangos i chi, a sut fyddwch yn ei ddefnyddio?
Mae creadigrwydd yn danwydd ar gyfer popeth rwy’n ei wneud! Rwy’n cynllunio profiadau o symud sydd yn chwareus, yn galluogi mynegiant, ac wedi’u teilwrio ar gyfer anghenion unigolion. Rwyf wrth fy modd yn gweld cyfranogwyr yn darganfod eu llais creadigol unigryw trwy symud. Yn bersonol rwy’n defnyddio creadigrwydd i ddarganfod emosiynau ac i ddelio â heriau, gan droi symudiadau bob dydd yn gyfleoedd i dyfu a chysylltu.
A yw’ch creadigrwydd wedi’ch arwain erioed i fannau neu at gysylltiadau annisgwyl?
O, do! Mae fy nhaith greadigol wedi arwain at gydweithio gyda chymunedau ac artistiaid o bob math, ac wedi dod â fi’n agosach at bobol sydd â’r un angerdd am symud meddylgar a hunan fynegiant. Mae hefyd wedi dyfnhau fy hunanymwybyddiaeth ac wedi dangos i mi rym creadigrwydd mewn iachâd a chyswllt.
Beth a’ch denodd i gymryd rhan yn Her Mis Ionawr?
Mae pwyslais Her Mis Ionawr ar greadigrwydd dyddiol yn cyd-fynd â fy nghenhadaeth i wneud symud yn hygyrch ac yn ysbrydoledig. Mae’n deimlad cyffrous gallu rhannu her sydd yn annog pobl i ymchwilio i’w cyrff a’u meddyliau mewn ffyrdd newydd a chwareus, a’u helpu i ddechrau’r flwyddyn gyda chyswllt dyfnach â’u hunain.
Gorffennwch y frawddeg. ‘Creadigrwydd yw…’
Cofleidio’r hyn sy’n unigryw.