Please can you introduce yourself
I am an independent designer running my own clothing brand; Janus. I would like to facilitate and sustain a supportive community of artists in Manchester through this programme and my line of work in fashion!
Where does creativity show up for you and how do you use it?
Creativity for me shows up in my design process, on creative directing artwork for my brand and realising my vision. It shows up for me when I dream up something in my head and work on transforming it into reality!
Has your creativity ever led you to any unexpected places or connections?
The strides I have managed to make when setting up my brand, the people I have met planned and unplanned who have uplifted me and transformed the way I think and behave and the ways it has translated into my brand. Creativity led me to seek out this opportunity and now here I am, a creative champion for the January challenge 2025, who would’ve thought?!
What drew you to take part in The January Challenge?
I wanted to hone my skills in bringing people together and this opportunity and platform would be great for also realising my vision of creating safe inclusive spaces for marginalised queer groups to come together and express themselves in a fun creative activity.
Would you like to share any more details about the group or community you hope to work with?
I hope to create a space for queer people of colour to express themselves creatively in a safe space! Activities that extend beyond the party scene. To encourage and sustain a network of queer creatives that support each other outside the space, to grow in our respective careers and personal journeys, and source opportunities that are otherwise very hard to come by for us
Finish the sentence. 'Creativity Is...'
individuality in communion
Cyflwynwch eich hun os gwelwch yn dda.
Rwy’n gynllunydd annibynnol sydd â brand dillad fy hun; Janus. Hoffwn hwyluso a chynnal cymuned gefnogol o artistiaid ym Manceinion trwy’r rhaglen hon a fy ngwaith ym myd ffasiwn!
Ymhle mae creadigrwydd yn ymddangos i chi, a sut fyddwch yn ei ddefnyddio?
Mae creadigrwydd i mi yn ymddangos yn fy mhroses gynllunio, wrth gyfarwyddo’n greadigol y gwaith celf ar gyfer fy mrand a gwireddu fy ngweledigaeth. Mae’n ymddangos i mi pan dw i’n creu rhywbeth yn fy mhen ac yn gweithio i’w droi’n rhywbeth real!
A yw’ch creadigrwydd wedi’ch arwain erioed i fannau neu at gysylltiadau annisgwyl?
Y camau breision rwyf wedi llwyddo i’w gwneud wrth sefydlu fy mrand, y bobl rwyf wedi’u cyfarfod, yn fwriadol ac yn anfwriadol, sydd wedi fy nghynnal ac wedi gweddnewid y ffordd rwyf yn meddwl ac yn gweithredu, a’r ffyrdd y mae wedi’i drosglwyddo i fy mrand. Mae creadigrwydd wedi fy arwain i ddarganfod y cyfle hwn a dyma fi, yn hyrwyddwr creadigrwydd ar gyfer Her Mis Ionawr 2025. Pwy fysa wedi meddwl?!
Beth a’ch denodd i gymryd rhan yn Her Mis Ionawr?
Roeddwn eisiau mireinio fy sgiliau dod â phobl at ei gilydd ac fe fydd y cyfle a’r platfform hwn hefyd yn wych i wireddu fy ngweledigaeth o greu gofodau diogel a chynhwysol ar gyfer grwpiau cwiar ymylol i ddod at ei gilydd a mynegi eu hunain mewn gweithgaredd creadigol a hwyliog.
A hoffech rannu unrhyw fanylion eraill am y grŵp neu’r gymuned yr ydych yn gobeithio gweithio â nhw?
Rwy’n gobeithio creu gofod ar gyfer pobl cwiar o liw i fynegi eu hunain yn greadigol mewn man diogel! Gweithgareddau sydd yn ymestyn y tu hwnt i’r sîn parti. Annog a chynnal rhwydwaith o grewyr cwiar sydd yn cynnal ei gilydd y tu allan i’r gofod hwn, er mwyn tyfu yn ein gyrfaoedd a’n teithiau personol, a chael gafael ar gyfleoedd sydd fel arall yn anodd i ni eu canfod.
Gorffennwch y frawddeg. ‘Creadigrwydd yw…’
Unigoliaeth mewn cymundeb.