Please can you introduce yourself
A collaboration between Eleanor and Sarah, Fast Fashion Therapy's ambition is to create a more sustainable fashion industry through sharing clothing repair and up-cycling skills. Every month, we host free workshops at community spaces across London and online sharing 'visible mending', upcycling and essential sewing skills. Our workshops welcome people with a range of abilities and creative ambitions - we learn just as much from participants as they learn from us!
Where does creativity show up for you and how do you use it?
Creativity is at the core of the workshops that we run. Each item of clothing that participants bring along is damaged in it's own special way so we use creativity to adapt to the problem and often add extra decoration too! For both of us, creativity is also how we relax whether through designing, drawing or making our own clothes.
Has your creativity ever led you to any unexpected places or connections?
Our creativity led us to each other! We both started workshops separately originally, the community space we were doing them at introduced us and we've now been working together for six years! Running a business can be hard at times and we couldn't have got here without each other.
What drew you to take part in The January Challenge?
The ethos of encouraging people to get involved in creative activities to build confidence and create new connections is exactly what our workshops are about! To be involved in the challenge encouraging people across the world to realise their creative potential everyday is really inspiring for us!
Finish the sentence. 'Creativity Is...'
time to play!
Cyflwynwch eich hun os gwelwch yn dda.
Cydweithrediad rhwng Eleanor a Sarah yw Fast Fashion, a’r uchelgais yw creu diwydiant ffasiwn mwy cynaliadwy trwy rannu sgiliau trwsio ac uwchgylchu dillad. Pob mis rydym yn cynnig gweithdai rhad ac am ddim mewn gofodau cymunedol ledled Llundain ac ar-lein, gan rannu ‘trwsio gweladwy’, uwchgylchu a sgiliau gwnïo hanfodol. Mae croeso yn ein gweithdai i bobl ag ystod gallu ac ystod o uchelgeisiau creadigol – rydym ni’n dysgu llawn cymaint gan y rhai sy’n cymryd rhan ag y maen nhw’n ei ddysgu gennym ni!
Ymhle mae creadigrwydd yn ymddangos i chi, a sut fyddwch yn ei ddefnyddio?
Mae creadigrwydd yn ganolog i’r gweithdai rydym yn eu cynnal. Mae pob dilledyn y daw pobl yno gyda nhw wedi’i niweidio yn ei ffordd arbennig ei hun, felly defnyddiwn greadigrwydd i addasu i’r broblem ac yn aml ychwanegwn addurn ychwanegol hefyd! I’r ddwy ohonom, creadigrwydd hefyd yw’r ffordd y byddwn yn ymlacio, boed trwy gynllunio, arlunio neu greu ein dillad ein hunain.
A yw’ch creadigrwydd wedi’ch arwain erioed i fannau neu at gysylltiadau annisgwyl?
Ein creadigrwydd a'n harweiniodd ni at ein gilydd! Fe ddechreuodd y ddwy ohonom gynnal gweithdai ar wahân, cyflwynwyd ni i’n gilydd gan y gofod cymunedol lle'r oedd y gweithdai’n cael eu cynnal, ac rydym bellach wedi bod yn cydweithio ers chwe blynedd! Gall rhedeg busnes fod yn anodd ar adegau ac ni fyddem wedi cyrraedd y pwynt hwn heb naill a’r llall.
Beth a’ch denodd i gymryd rhan yn Her Mis Ionawr?
Yr ethos o annog pobl i ddod yn rhan o weithgareddau creadigol er mwyn magu hyder a chreu cysylltiadau newydd yw union bwrpas ein gweithdai! Mae bod yn rhan o’r her o annog pobl ledled y byd i wireddu eu potensial creadigol wir yn ein hysbrydoli!
Gorffennwch y frawddeg. ‘Creadigrwydd yw…’
amser i chwarae!