Please can you introduce yourself
I am a South London born and raised wildlife enthusiast who currently works in a nature reserve as a ranger. For as long as I can remember, I’ve had a fascination of other living things around me. Since completing my degree in Zoology, I have taken part in many wildlife projects abroad and in the UK which led to my particular interest in birds. In 2023 I started an Instagram @outsidewithlira to teach urban communities about birds and other wildlife around them. Birding has helped me through tough times, and I want others to experience the benefits too.
Where does creativity show up for you and how do you use it?
I never thought of myself as creative until I started using my Instagram to inspire others to get into nature. Creating engaging content takes a lot of creativity- especially when it’s about pigeons! I love storytelling whether its through work or with loved ones which uses creative juices.
Has your creativity ever led you to any unexpected places or connections?
Creativity always leads me to weird and wonderful situations. For example, experimenting with cooking and creating fabulous new dishes (or not!) to making new life-long friends at creative workshops. Creativity is behind a lot of my best connections and memories.
What drew you to take part in The January Challenge?
Nature is a massive source of creativity for me. It’s a place where I can let my thoughts run wild and there are no limits or judgement from nature itself. When we look around us, a lot of our society has been inspired by nature-from fashion to aeroplanes!
Finish the sentence. 'Creativity Is...'
a fun necessity
Cyflwynwch eich hun os gwelwch yn dda.
Rwy’n un a gafodd ei geni a’i magu yn Ne Llundain ac sydd yn gwirioni efo bywyd gwyllt, ac sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel warden mewn gwarchodfa natur. Cyn belled a allaf gofio rwyf wedi cael fy nenu gan bethau byw eraill o fy nghwmpas. Ers gorffen fy ngradd mewn Sŵoleg rwyf wedi bod yn rhan o sawl prosiect bywyd gwyllt dramor ac ym Mhrydain, a hynny wedi arwain at fy niddordeb arbennig mewn adar. Yn 2023 dechreuais gyfrif Instagram @outsidewithlira i ddysgu cymunedau trefol am adar a mathau eraill o fywyd gwyllt o’u hamgylch. Mae adara wedi bod o gymorth i mi oresgyn adegau anodd, ac rwyf yn awyddus i eraill brofi’r un budd.
Ymhle mae creadigrwydd yn ymddangos i chi, a sut fyddwch yn ei ddefnyddio?
Doeddwn i erioed wedi ystyried fy hun yn greadigol hyd nes i mi ddechrau defnyddio Instagram i ysbrydoli eraill i ymwneud â natur. Mae angen llawer o greadigrwydd i greu cynnwys ar lein – yn enwedig wrth drafod sguthanod! Rwyf wrth fy modd yn adrodd straeon boed yn y gwaith neu gydag anwyliaid, ac mae hynny’n hybu llif creadigrwydd.
A yw’ch creadigrwydd wedi’ch arwain erioed i fannau neu at gysylltiadau annisgwyl?
Mae creadigrwydd bob tro yn fy arwain i fannau od a rhyfeddol. Er enghraifft, arbrofi gyda choginio a chreu prydau newydd gwych (neu fel arall!) i wneud ffrindiau newydd gydol oes mewn gweithdai creadigol. Mae creadigrwydd yno y tu ôl i lawer o fy nghysylltiadau ac atgofion gorau.
Beth a’ch denodd i gymryd rhan yn Her Mis Ionawr?
Mae natur yn ffynhonnell enfawr o greadigrwydd i mi. Mae’n lle y gallaf adael i fy meddyliau redeg yn rhydd a does yna ddim ffiniau na beirniadaeth gan natur ei hun. Pan edrychwn o’n hamgylch mae llawer o’n cymdeithas wedi’i ysbrydoli gan natur – o ffasiwn i awyrennau!
Gorffennwch y frawddeg. ‘Creadigrwydd yw…’
Rhywbeth angenrheidiol sy’n hwyl.