Please can you introduce yourself
I am a comedian and community arts facilitator based in Birmingham. I work within a few disciplines, writing, improv, crafting, and photography. My work has laughter and togetherness at the heart of it, embracing silliness and joy. It is my core belief that everyone can be creative. Helping to make the arts more accessible is of the utmost importance to me.
Where does creativity show up for you and how do you use it?
Being a photographer helps me find creativity everywhere, as I try to spot patterns and interesting shapes in my environment. I get most of my writing ideas when observing what is around me in the local community. I utilise creativity in all areas of my life, alone and with others.
Has your creativity ever led you to any unexpected places or connections?
Absolutely, I think that's the exciting thing about it. Working in community creative groups opens up so many funny, joyous connections. The weirdest place it has led me is interviewing 6 people about their art practices whilst they had a bath.
What drew you to take part in The January Challenge?
I had taken part in the January challenge before and found it something positive to focus on in what is a rather bleak month. As a facilitator, it seemed so exciting to help create my own prompts and bring my local communities awareness to this fantastic challenge.
Finish the sentence. 'Creativity Is...'
joyful, and fulfilling
Would you like to share any more details about the group or community you hope to work with?
I am bringing two community groups together to form an inter-generational group that focuses on joy and crafting. To promote togetherness and combat loneliness.
Cyflwynwch eich hun os gwelwch yn dda.
Rwy’n gomedïwr ac yn hwylusydd celf cymunedol wedi fy lleoli ym Mirmingham. Rwy’n gweithio o fewn sawl maes, ysgrifennu, byrfyfyrio, gwaith crefft a ffotograffiaeth. Mae chwerthin a bod gyda’n gilydd yn ganolog i’m gwaith, gan gynnwys llawenydd a lol. Mae hi’n gred sylfaenol gen i y gall unrhyw un fod yn greadigol. Mae cynorthwyo i wneud y celfyddydau yn fwy hygyrch yn eithriadol bwysig i mi.
Ymhle mae creadigrwydd yn ymddangos i chi, a sut fyddwch yn ei ddefnyddio?
Mae bod yn ffotograffydd yn fy ngalluogi i ddarganfod creadigrwydd ym mhob man, wrth i mi geisio gweld patrymau a siapiau difyr o fy amgylch. Daw’r rhan fwyaf o fy syniadau ar gyfer ysgrifennu wrth sylwi ar yr hyn sydd o fy amgylch yn y gymuned leol. Rwy’n defnyddio creadigrwydd ym mhob rhan o fy mywyd, ar fy mhen fy hun a chydag eraill.
A yw’ch creadigrwydd wedi’ch arwain erioed i fannau neu at gysylltiadau annisgwyl?
Yn union, credaf mai dyna’r peth cyffrous amdano. Mae gweithio mewn grwpiau creadigol cymunedol yn esgor ar gymaint o gysylltiadau doniol a llawn llawenydd. Y lle odiaf mae wedi fy arwain yw cyfweld â chwech o bobl ynglŷn â’u hymarfer celfyddydol a hynny tra roeddynt yn cael bath.
Beth a’ch denodd i gymryd rhan yn Her Mis Ionawr?
Roeddwn wedi cymryd rhan yn Her Mis Ionawr yn y gorffennol a’i gael yn rhywbeth cadarnhaol i ganolbwyntio arno yn ystod yr hyn a all fod yn gyfnod braidd yn ddiflas. Fel hwylusydd ymddangosai creu fy heriau fy hun a gwneud fy nghymuned leol yn ymwybodol o’r sialens wych hon yn rhywbeth cyffrous.
A hoffech rannu unrhyw fanylion eraill am y grŵp neu’r gymuned yr ydych yn gobeithio gweithio â nhw?
Rwyf am ddod â dau grŵp cymunedol at ei gilydd i greu grŵp o wahanol genedlaethau sydd yn canolbwyntio ar lawenydd a chrefftau, er mwyn hyrwyddo bod gyda’n gilydd ac i herio unigrwydd.
Gorffennwch y frawddeg. ‘Creadigrwydd yw…’
Llawn llawenydd ac yn rhoi boddhad