Please can you introduce yourself
Hi I'm Natasha. I have a long held interest in wellbeing, in creative pursuits and in how spending any amount of time being creative can have a positive impact on our wellbeing.
During the day, I work within primary care and I'm taking this opportunity to bring creativity, connectivity and the chance to 'give it a go' to our practice teams and our patients via January Challenge.
Where does creativity show up for you and how do you use it?
Creativity shows up in all aspects of my life, I use it to relax, to learn and to problem solve.
A creative mind really helps at work and I also have lots of 'projects' on the go at home. I'm always experimenting with new ways to express myself creatively.
I'm currently exploring ways in which I can take creative workshops into the community.
Has your creativity ever led you to any unexpected places or connections?
Creativity has led me study for an arts degree as a mature student (I never expected to be able to achieve this and I still forget I have it!!) It's also opened up opportunities within the performance field which I hadent anticipated.
I've met a couple of lovely, supportive and inspiring friends through shared creative interests.
What drew you to take part in The January Challenge?
I have taken part in The January Challenge for many years. I've always found it to be really accessible and the short but inspiring daily prompts are achievable and fun. It's also great to part of something bigger and it's lovely to see the many ways people interpret the prompts.
Would you like to share any more details about the group or community you hope to work with?
I hope to work with the teams within our general practice group, both clinical and administrative. This will be by sharing the January Challenge and facilitating participation. I also hope to work with our patients, making the January Challenge accessible via social media and by offering an event in January. I will try to promote connectivity by creating in person and on line sharing spaces.
Finish the sentence. 'Creativity Is...'
new discoveries beginning.
Cyflwynwch eich hun os gwelwch yn dda.
Helo, Natasha ydw i. Mae gennyf ddiddordeb ers amser maith mewn llesiant, mewn gweithgareddau creadigol a sut y gall treulio unrhyw gyfnod o amser yn bod yn greadigol gael effaith gadarnhaol ar ein llesiant. Yn ystod y dydd rwy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ddod â chreadigrwydd, cysylltu ag eraill a’r cyfle i ‘gael go’ i’r timau yn ein meddygfa a’n cleifion trwy gyfrwng Her Mis Ionawr.
Ymhle mae creadigrwydd yn ymddangos i chi, a sut fyddwch yn ei ddefnyddio?
Mae creadigrwydd yn ymddangos ym mhob agwedd ar fy mywyd. Rwy’n ei ddefnyddio i ymlacio, i ddysgu ac i ddatrys problemau.
A yw’ch creadigrwydd wedi’ch arwain erioed i fannau neu at gysylltiadau annisgwyl?
Mae meddwl creadigol yn help mawr yn y gwaith ac mae gen i bob tro sawl 'prosiect’ ar y gweill gartref. Rwyf wastad yn arbrofi efo gwahanol ffyrdd o fynegi fy hun yn greadigol.
Ar hyn o bryd rwy’n ymchwilio i ffyrdd y gallaf fynd â gweithdai creadigol i mewn i'r gymuned.
Beth a’ch denodd i gymryd rhan yn Her Mis Ionawr?
Arweiniodd creadigrwydd fi i astudio ar gyfer gradd gelfyddydol yn fyfyriwr aeddfed (doeddwn i ddim yn disgwyl gallu cyflawni hyn ac mi ydw i’n dal i anghofio i mi ennill y radd!!) Mae hefyd wedi agor dorau yn y byd perfformio nad oeddwn wedi’i ragweld yn digwydd.
Rwyf wedi cyfarfod ag ambell ffrind hyfryd, cefnogol ac ysbrydoledig, trwy fod â diddordeb creadigol yn gyffredin.
Rwyf wedi cymryd rhan yn Her Mis Ionawr ers sawl blwyddyn. Cefais ef yn hygyrch iawn bob tro ac mae’r heriau dyddiol yn fyr ond yn ysbrydoli, ac maent yn hwyl ac yn bosib i’w gwneud. Mae hefyd yn wych bod yn rhan o rywbeth mwy ac mae’n hyfryd gweld y gwahanol ffyrdd mae pobl yn dehongli’r heriau.
A hoffech rannu unrhyw fanylion eraill am y grŵp neu’r gymuned yr ydych yn gobeithio gweithio â nhw?
Rwy’n gobeithio gweithio gyda thimau o fewn ein grŵp practis cyffredinol, rhai clinigol a gweinyddol. Gwnaf hyn drwy rannu Her Mis Ionawr a thrwy hwyluso cymryd rhan. Rwyf hefyd yn gobeithio gweithio gyda’n cleifion, gan wneud Her Mis Ionawr ar gael trwy’r cyfryngau cymdeithasol a thrwy gynnig digwyddiad ym mis Ionawr. Byddaf yn ymdrechu i greu cysylltiadau trwy greu gofodau lle gall pobl greu ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Gorffennwch y frawddeg. ‘Creadigrwydd yw…’
Darganfyddiadau Newydd yn Dechrau