Please can you introduce yourself
I'm a Ghanaian born British multidisciplinary artist, librarian, coach and group facilitator. I live and work in Hull, and around the country. I have an academic background in Architecture and over 20 years experience facilitating workshops as a creative practitioner. My work includes African drumming, drum circles, musical instrument making, photography, design and other making practices. My group facilitation includes Action Learning, Participatory Appraisal, Open Space and Town Anywhere. I love bringing people together to connect, collaborate and share our creativity and what we have in common.
Where does creativity show up for you and how do you use it?
Creativity initially shows up in my imagination, with ideas when thinking, and sometimes even before I awake; in dreams! I use creativity as a process to finding solutions, whether it's working out a strategy for a project, or designing/creating/making things.
Has your creativity ever led you to any unexpected places or connections?
Yes, quite often! I've created experiences and opportunities like travelling to Ghana on a number of creative projects, which I have created by imagining/visioning and then designing project strategies. After submission, these designed project strategies have then become real projects, real experiences and real adventures.
What drew you to take part in The January Challenge?
A whole month of being in the flow of creativity is very attractive! The opportunity to share my skills and knowledge and to help bring people together to connect and share something of themselves with each other, with creativity, also drew me to take part in The January Challenge.
Finish the sentence. 'Creativity Is...'
imagination in action!
Cyflwynwch eich hun os gwelwch yn dda.
Rwy’n Brydeiniwr wedi fy ngeni yn Ghana, ac yn artist amlgyfrwng, yn llyfrgellydd, yn hyfforddwr ac yn hwylusydd grwpiau. Rwy’n byw ac yn gweithio yn Hull, a ledled y wlad. Mae gennyf gefndir academaidd ym maes Pensaernïaeth a mwy nag ugain mlynedd o brofiad yn hwyluso gweithdai fel ymarferydd creadigol. Mae fy ngwaith yn cynnwys drymio Affricanaidd, cylchoedd drymio, creu offerynnau cerddorol, ffotograffiaeth, dylunio a chreu mewn gwahanol ffyrdd eraill. Mae fy ngwaith hwyluso grŵp yn cynnwys Dysgu Gweithredol, Arfarnu Cyfranogol, Mannau Agored, a gweithgareddau Town Anywhere. Rwyf wrth fy modd yn dod â phobl ynghyd i gysylltu, i gydweithio ac i rannu ein creadigrwydd a’r hyn sydd gennym yn gyffredin.
Ymhle mae creadigrwydd yn ymddangos i chi, a sut fyddwch yn ei ddefnyddio?
Ymddengys creadigrwydd i ddechrau yn fy nychymyg, y syniadau a ddaw wrth feddwl, ac weithiau hyd yn oed cyn i mi ddeffro; yn fy mreuddwydion! Defnyddiaf greadigrwydd fel proses i ddarganfod ffyrdd o ddatrys pethau, boed wrth greu strategaeth ar gyfer prosiect, neu wrth ddylunio/creu/gwneud pethau.
A yw’ch creadigrwydd wedi’ch arwain erioed i fannau neu at gysylltiadau annisgwyl?
Yn aml iawn! Rwyf wedi creu profiadau a chyfleoedd megis teithio i Ghana ar gyfer nifer o brosiectau creadigol. Mi wnes i greu’r rhain trwy eu dychmygu / eu gweld yn fy meddwl ac yna cynllunio strategaethau prosiect. Ar ôl eu cyflwyno mae’r strategaethau prosiect hyn wedi dod yn brosiectau go iawn, yn brofiadau go iawn ac yn anturiaethau go iawn.
Beth a’ch denodd i gymryd rhan yn Her Mis Ionawr?
Mae mis cyfan o fod yn rhan o lif creadigol yn apelio’n arw! Fe wnaeth y cyfle i rannu fy sgiliau a’m gwybodaeth a bod o gymorth i ddod â phobl ynghyd i gysylltu â rhannu agweddau o’u hunain ag eraill, gyda chreadigrwydd, hefyd fy nenu i fod yn rhan o Her Mis Ionawr.
A hoffech rannu unrhyw fanylion eraill am y grŵp neu’r gymuned yr ydych yn gobeithio gweithio â nhw?
Rwy’n bwriadu gweithio gyda nifer o sefydliadau yn Hull. Mae Humber All Nations Alliance (HANA) yn gorff ymbarél sydd yn eiriol ar ran cymunedau rhyngwladol Hull a’r East Riding. Darparwr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yw Friends For English, sydd yn darparu gwersi Saesneg rhad ac am ddim ar gyfer cymunedau ffoaduriaid a mewnfudwyr yn Hull a’r East Riding. Mae Welcome House yn cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn Hull a’r East Riding. Rwyf hefyd yn bwriadu gweithio gyda llyfrgelloedd Hull, yn arbennig y Makerspace, er mwyn gwella ac ychwanegu gwerth at y gwaith y byddaf yn ei wneud gyda’r grwpiau rwyf wedi’u henwi.
Gorffennwch y frawddeg. ‘Creadigrwydd yw…’
…dychymyg yn digwydd!