A New Word

Day 11: A New Word

Welsh translation: Gair Newydd

Day 11: A New Word

“I’m a freelance writer, poet and translator. Most of my work is in Cymraeg (Welsh), and the translation that I do is mainly from English into Welsh. What has basically happened with me is that what was a hobby, writing, became the day job. Working with others, and especially others involved in different fields, helps to remind me that fun and creativity is an important part, the most important part, of my writing.”

To find out more about Sian Northey visit: https://64millionartists.com/sian-northey/

“Rwy’n llenor, bardd a chyfieithydd wedi fy lleoli ym Penrhyndeudraeth in Gwynedd.
Mae’r rhan fwyaf o fy ngwaith yn y Gymraeg, a’r cyfieithu rwy’n ei wneud o’r Saesneg i’r Gymraeg yn bennaf. Yn sylfaenol yr hyn sydd wedi digwydd i mi ydi bod yr hyn oedd yn hobi, ysgrifennu, wedi troi i fod yn waith pob dydd. Mae gweithio gydag eraill ,ac yn arbennig rhai sydd yn ymwneud â meysydd eraill, yn help i fy atgoffa bod hwyl a chreadigrwydd yn rhan bwysig, y rhan bwysicaf, o’m hysgrifennu.

https://64millionartists.com/sian-northey/

Do

Day 11: Sian Northey

Create a word that does not, as far as you know, exist. Create it because you like, or hate, the sound of it.

Decide how it’s written. You could even make up letters that don’t exist in any alphabet you use. Write it down in several different ways – pencil, felt pens, on a steamed up bathroom mirror.

How is this word pronounced? Say it in different ways – in a whisper, in a sing-song voice, shouted. You could perhaps record yourself saying it and listen to it.

Crëwch air nad yw, cyn belled ag ydych chi’n gwybod, yn bodoli.

Crëwch y gair am eich bod yn hoffi, neu yn casáu, ei sŵn.

Penderfynwch sut mae’r gair yn cael ei ysgrifennu. Gallech hyd yn oed greu llythrennau nad ydynt yn bodoli mewn unrhyw wyddor y gwyddoch amdani. Ysgrifennwch y gair mewn gwahanol ffyrdd – pensel, pin ffelt, yn y stêm ar ddrych yr ystafell ymolchi.

Sut mae ynganu’r gair hwn? Dywedwch y gair mewn gwahanol ffyrdd – ei sibrwd, ei led ganu, ei weiddi. Efallai y gallech recordio eich hun a gwrando ar y gair newydd.

Think

What is the meaning of this word?

Perhaps it’s onomatopaeic, its sound reflecting its meaning.

Perhaps it’s a word for something you’ve always thought there should be a word for. Or its meaning might come as a complete surprise to you and yet feel as if its something you’ve always known.

Write a definition like a dictionary entry.

Write a sentence, in one or more of your languages, that contains this word.
Draw whatever it is.

Beth yw ystyr y gair hwn?

Efallai ei fod yn onomatopeig, ei sŵn yn adlewyrchu ei ystyr. Efallai ei fod yn air am rywbeth yr ydych wedi credu erioed y dylai bod gair amdano. Neu efallai y daw ei ystyr yn amlwg yn sydyn ac yn syndod, ac eto teimlo fel rhywbeth rydych wedi’i wybod erioed.

Ysgrifennwch ddiffiniad fel mewn geiriadur.

Ysgrifennwch frawddeg, mewn un neu fwy o’ch ieithoedd, sydd yn cynnwys y gair.
Tynnwch lun o beth bynnag ydi o.

Share

You can share today’s journey with creativity on social media by tagging us or using the hashtag #TheJanuaryChallenge Encourage your friends and family to join in to take the conversation further! Read our top tips for accessible sharing on social media.

Rhannwch eich campau creadigol gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ein tagio neu ddefnyddio’r hashnod #HerIonawr

Beth am annog ffrindiau a theulu i ymuno fel gall y sgwrs fynd ymhellach!

Darllenwch ein hawgrymiadau gwych er mwyn rhannu mewn modd hygyrch.