Creativity Is…
Day 31: Creativity Is…
Welsh translation: Creadigrwydd yw…
Today is the last day of The January Challenge 2024. We made it! Over the last 31 days, we’ve explored our creativity – inspired by different people’s ideas and creative prompts across the UK.
‘Creativity’ is a big word! It means different things to different people and shows up everywhere we look. At 64 Million Artists, we think of creativity as an everyday quality that is happening inside of and around us all of the time.
Creativity allows us to imagine and re-imagine, problem-solve, play games, communicate and connect, express ourselves and understand others better. Creativity can be joyful, exciting and sometimes tough – a necessary human response to navigating challenge or oppression.
We are curious about how creativity relates to change – how can we do things differently to create small and big ripples of change in our world – and how can all 64 Million (and counting..) of us across the UK feel creative, inspired and confident to be a part of that change.
Today’s final creative prompt is from the 64 Million Artists team. We hope you enjoy the process and that you’ll join us as we launch a year-round programme of creative prompts, events, workshops, training opportunities, resources and community platforms starting tomorrow!
If you’re not already on our mailing list to receive weekly creative prompts, event invites, and workshops for 2024, you can sign up here: 64millionartists.com/newsletter
Heddiw yw diwrnod olaf Her Mis Ionawr 2024. Rydyn ni wedi cyrraedd! Dros y 31 diwrnod diwethaf rydyn ni wedi archwilio ein creadigrwydd ar ôl cael ein hysbrydoli gan syniadau ac anogaeth greadigol gwahanol bobl ledled y DU. Mae ‘creadigrwydd’ yn air mawr! Mae’n golygu pob math o bethau gwahanol i bobl wahanol ac i’w weld ym mhobman rydyn ni’n edrych. Yn 64 Miliwn o Artistiaid, rydyn ni’n meddwl am greadigrwydd fel rhinwedd bob dydd sy’n digwydd y tu mewn i ni ac o’n cwmpas drwy’r amser. Mae’n gadael i ni ddychmygu ac ail-ddychmygu, datrys problemau, chwarae gemau, cyfathrebu a chysylltu, mynegi ein hunain a deall pobl eraill yn well hefyd. Gall creadigrwydd fod yn llawen ac yn gyffrous, a gall fod yn anodd iawn – ymateb dynol angenrheidiol i ymdrin â heriau neu ormes. Rydyn ni’n chwilfrydig i weld sut mae creadigrwydd yn gysylltiedig â newid – sut allwn ni wneud pethau’n wahanol i greu crychau bach a mawr o newid yn ein byd – a sut y gall 64 Miliwn (a mwy…) ohonon ni, ledled y DU, deimlo’n greadigol, yn hyderus a chael ein hysbrydoli i fod yn rhan o’r newid hwnnw. Daw’r ysgogiad creadigol olaf heddiw gan dîm 64 Miliwn o Artistiaid. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r broses – a gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni wrth i ni lansio rhaglen dros flwyddyn gron o ysgogiadau creadigol, digwyddiadau, gweithdai, cyfleoedd hyfforddi, adnoddau a llwyfannau cymunedol gan ddechrau – yfory! Gallwch ddarllen mwy am ein rhaglen newydd ‘Creadigrwydd yw’ yma. A byddwn ni’n cysylltu â chi yn y bore. Am y tro…!
Do
What does ‘creativity’ mean, to you? That’s a big question – we know! Take a few minutes to reflect on the last month. What have you experienced? Where has your creativity taken you? Whether you’ve done 1 creative prompt, or explored every day, today we are inviting you to celebrate YOUR creativity. Finish the sentence ‘Creativity Is…’ and share your response. Use the downloadable poster below to inspire you, or let your creativity do the talking!
Beth yw ystyr ‘creadigrwydd’ i chi? Ydy – mae hwn yn gwestiwn mawr! Treuliwch ychydig funudau’n myfyrio ar y mis diwethaf. Beth ydych chi wedi’i brofi? Ble mae eich creadigrwydd wedi mynd â chi? P’un a ydych chi wedi derbyn un ysgogiad creadigol, neu wedi archwilio bob dydd, heddiw rydyn ni’n eich gwahodd i ddathlu eich creadigrwydd CHI. Gorffennwch y frawddeg ‘Creadigrwydd yw…’ a rhannwch eich ymateb. Defnyddiwch y poster y gallwch ei lawrlwytho i’ch ysbrydoli neu gadewch i’ch creadigrwydd ganu!
Here are some posters that people have recently made. You can click them to view a larger version.
Think
Ask somebody else for their response to today’s final prompt. What conversations does it inspire?
Gofynnwch i rywun arall am eu hymateb i ysgogiad olaf y mis. Pa sgyrsiau sy’n cael eu sbarduno?
Share
Share your sentence in a way that is meaningful to you – in your journal, with your dog, with a friend, family member, colleague – or online, using #TheJanuaryChallenge
Read our top tips for accessible sharing on social media.
Rhannwch eich brawddeg mewn ffordd sy’n ystyrlon i chi – yn eich dyddiadur, gyda’ch ci, gyda ffrind, aelod o’r teulu, cydweithiwr – neu ar-lein, gan ddefnyddio #HerMisIonawr / #TheJanuaryChallenge.